| Mae
ysgolion pentref lleol yn hanfodol i ddyfodol Cymru
Wledig. Felly mae YDCW mewn partneriaeth â
sefydliadau eraill yn lansio ymgyrch i’w harbed
hwy. Dyma pam.
Mae ysgolion bychain ar draws Cymru
yn wynebu blwyddyn gritigol fel mae Adurdodau
Lleol yn adolygu’r ffordd y maent yn darparu
addysg gynradd. Mae mwy na hanner o ysgolion cynradd
gwledig Cymru gyda 90 o ddisgyblion neu lai, ac
felly’n cael eu categoreiddio gan y Comisiwn
Cyfrifo fel ‘bach’. Mae ad-drefnu
yn golygu eu bod i gyd yn wynebu’r posibilrwydd
o gau.
Mae’r buddion ariannol o ad-drefnu
fel hyn wedi cael eu hamlygu gan nifer o Awdurdodau
sy’n brin o arian ac mae gwleidyddion a
rhai pobl proffesiynol wedi cefnogi’r ddadl
hon drwy ddadlau nad yw ysgolion bach yn darparu’r
addysg orau oherwydd bod ganddynt lai o athrawon,
adeiladau gwaelach a grwpiau disgybl cyfoed bychan.
Pam fod ysgolion bychain yn bwysig?
Yn groes i rai syniadau, mae llawer
yn credu bod ansawdd addysgu yn well mewn ysgolion
bychain oherwydd bod yr arweinyddiaeth yn gryfach
a bod y pennaeth yn uniongyrchol ynghlwm nid yn
unig â’r cynllunio a’r monitro
ond hefyd yn rhan o’r addysgu. Mae’r
disgyblion mewn deng ysgolion dau-athro yn aml
yn cyflawni’r un safonau os nad safonau
uwch na’u cyfatebwyr mwy.
Mae bychan hefyd yn creu synnwyr
gyfoethog o weithio fel tîm, tra bod agosrwydd
at y cartref a’r gymuned yn galluogi staff,
disgyblion a phobl leol i gyd gael budd. Yr ysgol
yw canolbwynt bywyd y pentref yn wir a’r
un gwasanaeth gyhoeddus sydd ar ôl i etholwyr
y pentref sy’n talu trethi uchel yw ysgol
y pentref. Gan Geredigion mae’r nifer fwyaf
o ysgolion bychain yng Nghymru ond mae gyda rhai
o’r canlyniadau Lefel ‘A’ gorau
yn gyson.
Mae llywodraeth ar ôl llywodraeth
wedi condemnio’r costau’r nifer cynyddol
o lefydd gweigion mewn ysgolion. Mewn realiti
mae’r Comisiwn Cyfrif wedi dangos bod y
rhan fwyaf o’r broblem hon mewn ardaloedd
trefol. Er hyn yr ysgolion bychain sy’n
dioddef ac yn cau a’r disgyblion yn cael
eu cludo ar gostau drud yn ddi-ddiwedd. Yn y pen
draw y cymunedau gwledig a’r bywyd gwledig
sydd yn dioddef.
Y Sefyllfa Bresennol
Mae datganoli polisi addysg i Lywodraeth
Cynulliad Cymru wedi arwain at bolisi hollol ymrannol
ar ysgolion bychain a gwledig yng Nghymru. Mae
polisiau Llywodraeth y Cynulliad Cymreig yn cynnwys:
- Targedau ar gyfer lleihau cynhwysedd
gormodol yn yr ysgolion; a
- Addewid i ddarparu “adeiladau
ysgol digonol ar gyfer pawb erbyn 2010.”
Mae’r polisiau hyn o reidrwydd
yn diffinio ffordd tuag at ad-drefniant a chau
ysgolion bychain gyda’r canlyniad o adwaith
cyhoeddus difrifol nad yw’n syndod. Yr enghraifft
mwyaf diweddar yw cyhoeddiad Cyngor Sir Gaerfyrddin
am ad-drefniad ysgolion gwerth £100 miliwn
(Hydref 2004) a chau posibl o 40 o ysgolion lleiaf
y sir. Mae llawer o’r ysgolion lleiaf yng
Nghymru Wledig mewn ardaloedd lle mae’r
iaith dan fygythiad fwyaf.
Yn Siroedd Penfro, Dinbych a Mynwy
mae ysgolion bychain yn gynyddol yn dioddef yr
un dynged. Cyrhaeddodd ymdrechion rhieni yr ysgol
gynradd 50 disgybl yn Hermon, Gogledd Sir Benfro
at fynd a’u hymgyrch i arbed yr ysgol, ddau
wrandawiad Uchel Lys yn Llundain yn ystod 2004.
Mynnodd yr awdurdod lleol bod Cynulliad Cymru
yn cael ei dynnu i mewn i’r achos llys,
ac yn yr adolygiad barnwrol terfynol yng Ngorffennaf
2004, oherwydd yr adnoddau cyfyngedig oedd ar
gael i’r rhieni, ni lwyddodd y cais i arbed
yr ysgol rhag cau. Dadleuodd y rhieni bod Polisi
Cau Ysgolion yng Nghymru yn annheg i gymunedau
gwledig bychain oedd yn gorfod cydymffurfio â
chyfrifoldebau Awdurdodau Addysg Lleol i gydymffurfio
â dymuniadau’r Gweinidog Addysg ym
Mae Caerdydd. Mae Powys wedi neidio ar y drol
‘ad-drefnu’ ac mae ysgolion sy’n
perfformio’n dda fel Llandinam, nawr dan
fygythiad.
Y Ddadl Ariannol
Mae’r cwbl yn dibynnu ar arian!
Ond mae’r costau unedol uwch yn cynrychioli
buddsoddiad tymor hir doeth yn yr unigolyn yn
ogystal â lles y gymdeithas. Yn yr ysgol
fach mae’r pecyn yn gyflawn, naturiol a
buddiol.
Os yw ysgolion bychain yn dda i blant,
gyda safonau uchel o ymddygiad ac agweddau ardderchog
tuag at ddysgu ac at ei gilydd, pam fod Cymru
gwrthod hyn ? Ai problem trefol yn unig yw costau
trybini ac anfodlonrwydd ymhlith pobl ifanc?
Gall y ddwy flynedd nesaf weld taenfa
ddifrodol eang yn torri drwy ffabrig gyfoethog
Cymru wledig. Unwaith mae’r ysgolion wedi’u
colli, bydd effeithiau anorfod ar gymunedau, unigolion
a hunaniaeth llefydd gwledig Cymreig. Gall y rhai
sy’n pryderu am ansawdd addysg a rhai sy’n
poeni am Gymru wledig ennill y ddadl hon ond bydd
angen ymdrech benderfynol iawn nid yn unig i amddiffyn
bob un ysgol unigol ond i gario’r dadleuon
cywiraf ymlaen. Gall hwb ymgyrch wedi’i
gydlynu’n dda wyrdroi’r llanw cyfredol
sy’n bygwth momentwm sydd bron yn ddifrod
cymdeithasol.
Wedi methu gyda’u hymgais i
arbed eu hysgol bentref mae Rhieni Ysgol Gynradd
Hermon wedi sefydlu cronfa ysgol genedlaethol
fach i ddenu unigolion o Gymru gyfan i gydweithio
i amlygu’r angen hollbwysig i gadw’r
ysgol wledig fychan. Am £1 yr wythnos yn
unig mae’r aelodaeth yn codi tuag at y targed
cychwynnol o 500 o aelodau. Yn bwysig iawn mae’r
gronfa yn gobeithio codi £14,000 ar gyfer
lobio a chydlynu’r her i rwystro cau ysgolion
bychain a galluogi adolygiad o’r polisi
cau ysgolion bychain cyfredol yng Nghymru.
Er mwyn darganfod mwy am yr ymgyrch
a sut i ymaelodi ymwelwch â gwefan ysgolion
bychain cenedlaethol ar www.ysgolhermon.org.uk
Download
& Print Petition
|