Mae’n bleser gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig gyhoeddi ei bod wedi penodi Sioned Humphreys yn Ddirprwy Gyfarwyddwr i’r mudiad.
Dywedodd y Cadeirydd Morlais Owens:
"Fe fydd Sioned yn dod â dimensiwn newydd a chyffrous i’n gwaith ymgyrchu a parhau’r gwaith da sydd wedi cael ei wneud yn ystod y 75 mlynedd diwethaf yn amddiyn ac yn gwella amgylchedd unigryw Cymru."
Mae Sioned wedi treulio’r saith mlynedd diwethaf yn gweithio i BBC Cymru fel cynhyrchydd. Llynedd penderfynodd newid cyfeiriad ac astudio MA mewn Rheolaeth Cefngwlad ym Mhrifysgol Cymru Bangor. Mae ei diddordeb yng nghefngwlad yn deillio o’i magwraeth, yn gyntaf yn Llanfyllin, Maldwyn ac yna ar y fferm deuliol ger Aberteifi, Ceredigion. Ar ôl gadael yr ysgol croesodd Glawdd Offa i astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Bryste cyn dechrau ei gyrfa gyda’r BBC yng Nghaerdydd. Yn ystod y cyfnod gweithiodd i’r adran newyddion, materion cyfoes a gwleidyddiaeth a chael y cyfle i deithio’n helaeth.
"Fel Cymraes mae’n naturiol mod i’n teimlo’n gryf am faterion sy’n ymwneud â chefngwlad. Rwy’n mawr obeithio bydd y rôl newydd yma’n sialens ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth."
Dywedodd Peter Ogden, Cyfarwyddwr YDCW:
"Fe fydd cael Sioned yn aelod o’r tîm yn ein galluogi i apelio at gynulleidfa llawer ehangach, a’i gwneud yn ymwybodol or bygythiadau sy’n wynebu cefngwlad. Edrychwn ymlaen i’w chroesawu i’r ymgyrch a parhau â’r gwaith o wneud Cymru’n le gwell i fyw i bawb."
Fe fydd Sioned yn dechrau ei swydd
ar y 1af o Fedi 2004.
Llun (56 kb)