�
�
Mae chwech mudiad pwysig Cymreig yr wythnos hon wedi uno i ymgyrchu yn erbyn cau Ysgolion bychain gwledig Cymreig. Gyda�i gilydd mae Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, CFfI Cymru, Merched y Wawr, UFfC, Sefydliad y Merched, a Chronfa Ysgolion Bychain Cymreig, yn cynrychioli mwy na 65 mil o unigolion drwy Gymru.
�
Cytunodd y grwp i greu mudiad newydd o dan yr enw Cymdeithas Ysgolion Bychain Cymru gyda�r nod o ymgyrchu yn erbyn y bygythiad cynyddol o gau sy�n wynebu ysgolion gwledig bychain. Mae�r grwp yn teimlo bod cau ysgolion gwledig yn tanseilio�r ffabrig cymdeithasol sy�n bodoli o fewn cymunedau bychain, gan effeithio ar iaith, ysbryd cymunedol a ffabrig cymdeithasol.
�
�
Heddiw dwedodd Cris Tomos trefnydd Cronfa Ysgolion Bychain Cymreig a ymgyrchodd fel Cadeirydd Ymgyrch Ysgol Hermon, �Mae gwir angen am fudiad fel hyn a fyddai wedi cynorthwyo Ysgol Hermon i frwydro drwy�r Uchel Lys, teimlaf bod y profiad gennym ni yn ymladd yn erbyn cau ein hysgol, a chefnogaeth yr amrywiol fudiadau hyn sydd wedi dod at ei gilydd oherwydd eu bod yn credu bod hon yn ymgyrch hanfodol sydd raid ei hennill.�
�
�
Mae mwy na 200 o ysgolion bychain yn wynebu cau o dan y polisi cyfredol � gall unrhyw ysgol gyda llai na 90 o ddisgyblion wynebu cau. Bydd y grwp yn ceisio datblygu mudiad fel bod Cymdeithas Ysgolion Bychain Cymru a Chylchoedd chwarae chylchoedd chwarae yn gallu ymdrin �r materion heb fod dan anfantais, hysbysu�r cyhoedd yn gyffredinol am bwysigrwydd r�l Ysgolion gwledig Cymreig a chylchedd chwarae yn eu cymunedau.
�
�
Bydd y gymdeithas yn cynhyrchu Deiseb cenedlaethol a gobeithio�i dosbarthu ymhlith y 65,000 aelodau o�r grwpiau partner gyda�r bwriad o gyrraedd targed o 500,000 erbyn hydref 2005. Mae cronfa ar wahan wedi cael ei sefydlu i godi arian i roi cymorth a chyngor i rieni a chyrff llywodraethol ysgolion dan fygythiad.
�
Dwedodd Cyfarwyddwr YDCW Peter Ogden, �Mae YDCW yn teimlo�n gryf iawn bod yr ysgol leol nid yn unig yn darparu addysg o ansawdd uchel ond hefyd yn annog ymhlygiad cymunedol ar lefel leol. Mewn rhai ardaloedd gwledig yr ysgol leol yw�r unig fan cyfarfod, byddai colli�r cyfleuster hwn yn cael effaith niweidiol ar yr iaith, diwyllant a�r amgylchedd yng Nghymru wledig�.
�
Nodiadau i'r Golygydd:
Am fwy o wybodaeth
cysylltwch � Sioned Humphreys Dirprwy Gyfarwyddwr YDCW 01938 552525 07855 370997
Cyfweliadau Cymraeg/Saesneg ar gael