15fed Rhagfyr 2004
Am wybodaeth pellach cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Peter Ogden, Cyfarwyddwr, ar 01938 552525
Mae YDCW yn ddigamsyniol wedi gwrthod cynigion
diweddar Llywodraeth y Cynulliad i benodi saith ardal Ymchwiliad Strategol ar
draws Cymru ar gyfer datblygiad ffermydd gwynt maint diwydiannol. Mae�n herio
cyfreithlondeb agwedd polisi drafft gyfredol a gynhwysir yn y ddogfen MIPPS a
TAN 8.
Mae YDCW yn ystyried bod yr agwedd gyfredol yn anochel yn adeiladu tuag at y
targed hunangyflawnol o gynhyrchu 800 MW o ynni adnewyddadwy oddi wrth
ffynonellau pwer gwynt atraeth a�i anghydbwysedd digyfiawnhad gyda�r cynhyrchiad
pwer 200 MW oddi wrth ffynonellau gwyntoedd alltraeth.
Mae rhesymau YDCW dros gael ail-werthusiad radical o�r agwedd gyfredol yn cael
eu crynodi fel a ganlyn :.
1. Mae MIPPS yn methu ag adlewyrchu egwyddorion ac ymarferion cadarn cynllunio
defnydd tir
2. Nid yw cyfreithlondeb targed ynni adnewyddadwy wedi ei brofi.
3. Mae cydbwysedd darpariaeth ynni adnewyddadwy�r dyfodol wedi�i gamliwio.
4. Mae�r cyfraniad y gall pwer gwynt alltraeth ei gynnig wedi ei gamgynrychioli.
5. Mae�r cyfraniad a gynigir gan fesurau cadwraeth ynni a thechnolegau
adnewyddadwy wedi ei wrthod yn annheg.
6. Nid yw�r agwedd yn rhoi cydnabyddiaeth deilwng i werth tirluniau Cymru.
7. Nid yw�r agwedd yn cydymffurfio �r safonau cynaladwyaeth a osodir gan Reolau
Asesiad Amgylcheddol Strategaethol y Cynulliad ei hun.
8. Mae�r agwedd yn gwrthdaro � pholisiau cynaladwyol eraill y Cynulliad.
9. Mae�r agwedd awdurdodol yn mynd yn groes i egwyddorion Cynhadledd �rhus.
| Mae YDCW yn ddibynnol ar roddion a thanysgrifiadau gan gefnogwyr ar gyfer ei waith hanfodol i ddiogelu y tirlun ac amgylchedd Cymru. Mae YDCW yn Elusen Gofrestredig (rhif 239899). Gallwch rhoddi neu tanysgrifio | ||
| Ffôn: 01938 552525 / 01938 556212 | Ffacs: 01938 871552 | E-bost: info@cprw.org.uk |