Dychwelyd i fynegair dataganiadau i'r wasg  

12fed o Dachwedd 2004

I'w Ryddhau yn Syth

Pobl Ifanc am yr Hawl i Fyw a Gweithio yn eu Cymunedau

Mae 40 o bobol ifanc o bob rhan o Gymru wedi tanlinellu ei gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru Wledig yn ystod cynhadledd flynyddol yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig a gynhaliwyd ym Mhlas Tan Y Bwlch, Eryri'r wythnos hon. Cafodd y gynhadledd ei noddi gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Trenau Arriva Cymru. Mae’r bobl ifanc yn dymuno gweld, ‘ardal lle caiff ein diwylliant a’i traddodiadau, yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd eu parchu a’u deall gan bawb sy’n byw yn yr ardal ac yn ymweld â hi’.

Dywedodd un myfyriwr ‘Fel pobl ifanc, rydym am gael y cyfle i fyw a gweithio, i wneud penderfyniadau sydd yn effeithio ar ein dyfodol a mwynhau’r cyfan sydd gan yr ardal i’w gynnig’. Yn ol dirprwy gyfarwyddwr YDCW Sioned Humphreys ‘mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel, a nifer fawr o’r bobol ifanc yn dymuno mynd i weithio yn y maes Amgylcheddol ar ôl dod ar y cwrs’.

Cafodd y ddirprwyaeth y cyfle i ymweld â phrosiectau cymunedol, hamddena ac amgylcheddol yn

Eryri yn ogystal â chael y cyfle i gyfarfod a gweithio gyda phobl o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Cymru Bangor, Cadw Cymru’n Daclus, Plas y Brenin, Snowdonia Active, Y Comisiwn Coedwigaeth, Cwlwm Glaslyn a’r Cyngor Cefn Gwlad.

Ar ôl treulio amser yn astudio’r materion sy’n effeithio ar gefn gwlad cyflwynwyd gweledigaeth y bobol ifanc. Roedden nhw’n teimlo bod yn rhaid i ddatblygiad fod yn gynaliadwy ac yn cefnogi adnoddau lleol a lle darperir gwaith a hyfforddiant ar gyfer pobl leol hen ac ifanc. Roedden nhw hefyd am i’r un adnoddau technegol fod ar gael i’r bobl leol ag sydd ar gael i bobl yn y dinasoedd.

Roedd yn bosib i bobol ifanc o bob rhan o Gymru fynychu’r cwrs gan ei bod wedi derbyn cludiant am ddim gan Trenau Arriva Cymru. Dywedodd Geraint Morgan Rheolwr Materion Cymunedol y cwmni, ‘mae ein trenau yn cyflenwi gwasanaeth pwysig i ardaloedd gwledig ac yn galluogi twristiaid i ymweld ag ardaloedd o brydferthwch naturiol Cymru. Mae’n braf gweld pobl ifanc yn cymheryd diddordeb mewn materion sy’n effeithio cefn gwlad ac roedden yn fodlon iawn i gefnogi'r bobl ifanc gyda’i trefniadau teithio’

Roedd y bobol ifanc am i bawb fod yn fwy ymwybodol o holl agweddau o fywyd cefn gwlad ac i blant gael dysgu amdanynt yn yr ysgolion. Bydd hyn yn hyrwyddo teimlad o gyfrifoldeb personol dros gefn gwlad a allai helpu i leihau’r bwlch rhwng grwpiau nad ydynt bob amser yn cytuno efo’i gilydd.

Dywedodd Prif weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru Roger Thomas , ‘fod hi’n hanfodol bod yna gyfleoedd i bobol ifanc aros yn ei cymunedau - rydym yn gweithio gyda Prifysgol Cymru Bangor i sicrhau bod ein pobl ifanc yn dysgu’r sgiliau i ddiogelu Cefn gwlad Cymru’.

Cafodd y weledigaeth ei gyflwyno i Brif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri, Aneurin Phillips. Dywedodd yntau, “ Mae’r sylwadau cadarnhaol sy’n deillio o’r gynhadledd hon yn werthfawr iawn i ni fel Awdurdod , ac fe fyddant yn cael eu hystyried yn ofalus wrth i mi, swyddogion ac Aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol baratoi at her y dyfodol. Wedi’r cyfan, mae gwrando ar farn pobl ifanc heddiw yn gwbl allweddol wrth inni wynebu a pharatoi at ein hyfory.”

Pedwar llun (122 kb)

Nodiadau i'r Golygydd:

Am luniau o’r digwyddiad neu wybodaeth bellach cysylltwch â YDCW ar 01938 552525.

Dychwelyd i ben y dudalen

www.cprw.org.uk/press/gc121104.htm