Dychwelyd i fynegair dataganiadau i'r wasg 

4ydd Hydref 2004

I'w Ryddhau yn Syth

Dathliadau Cefn Caer

Mae Cangen Meirionnydd Branch o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) wedi gwobrwyo Mr Elfyn Rowlands o Bennal gyda Gwobr Cymru Wledig enwog. Mae’r Wobr, yn dathlu prosiectau neu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig tuag at wella’r amgylchedd a bywyd cymunedol.

Dyfarnwyd y Wobr Cymru Wledig i Mr Rowlands fel cydnabyddiaeth o’i ymroddiad personol a’i gyflawniad wrth adfer Cefn Caer House, Pennal, ger Machynlleth. Mae adfer Cefn Caer, sy’n dyddio’n ôl i’r 16eg Ganrif, wedi cymryd dros wyth mlynedd. O alw ar sgiliau traddodiadol arbenigol crefftwyr lleol, mae’r ty wedi cael ei adfer yn gydymdeimladol, gan gadw a dadorchuddio nodweddion gwreiddiol, tra ar yr un pryd yn cynnig pob cysur modern sydd eu hangen mewn cartref yn yr 21ain ganrif.

Croesawodd Cadeirydd Cangen Meirionnydd-Mr David Richardson aelodau Cangen YDCW a gwahoddedigion i Cefn Caer. Roedd y gwahoddedigion yn cynnwys: Cadeirydd Cenedlaethol YDCW Mr Morlais Owens, Dirprwy Gyfarwyddwr YDCW - Sioned Humphreys, Arglwydd Raglaw Gwynedd – Yr Athro Eric Sunderland a Pauline James o’r Swyddfa Bost, a chynrychiolydd o CADW; Cr Morgan Vaughan, Peter Smith – awdur lleol, cynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Pennal ac Ysgol Gynradd lleol Pennal, cyfeillion a theulu Mr Rowlands.

Cyflwynodd Pauline James o’r Swyddfa Bost (noddwyr y Wobr) Mr Rowlands gyda thystysgrif wedi’i fframio a chyflwynodd yr Arglwydd Raglaw lechfaen coffaol wedi’i engrafu.

Diolchodd Mr Rowlands i’r YDCW a’r gwahoddedigion am y Wobr Cymru Wledig ac am y gydnabyddiaeth o’r ymroddiad a ymgymerwyd.

(Mae Mr Rowlands yn croesawu ymwelwyr i’r ty unigryw ac arbennig hwn trwy drefniad.)

Llun (50k)

Nodiadau ar gyfer y Golygydd
Am wybodaeth pellach cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:
Deb Wozencraft, Liaison Officer on:
tel: 01938 552525/556212
e-mail: deb@cprw.org.uk

Dychwelyd i ben y dudalen

www.cprw.org.uk/press/gc051004.htm