<%@ Page Language="VB" %> <%@ import Namespace="System.Data" %>
 
Y Gofalwr
-teyrnged i Merfyn Williams

gan Iwan Llwyd

Y Gofalwr (i Merfyn)

Un â gofal gwlad gyfan,
yn dwrdio’r dorf â’i enaid ar dân,
un â’i agenda ei hunan:

i ddangos yr hyn sy’n bosib,
yn nhir gro ac ar y grib,
a mesur yr amhosib,

yr erydu ym mharadwys,
y tir cau a’r torri cwys,
ac oglau fferm ac eglwys;

i ddangos y graith ddi-angen
y bu e’n y Trallwng yn ben,
i rwygo’r graig o’r gragen,

a’i her erwin i ninnau
yw i beri i hud Dyfed barhau,
i Glwyd ddiogelu hadau

tyner gwanwynau’r werin,
i fedi’r drysni anodd ei drin
a gwefr yr olygfa gyfrin;

i feithrin melin nad yw’n malu
a siwrne nad yw’n sarnu’r
fawnog gyfoethog a fu:

i ddwyn i’r llefydd unig
hen hadau’r Gymru wledig,
yn goed a gwraidd, llannerch a gwig.

Iwan Llwyd

Awst 2003
www.cprw.org.uk/magartcl/artAspNet/gofalwr.aspx